Croeso i Gymru!

Ydych chi erioed wedi ceisio crynhoi gwlad gyfan mewn ychydig baragraffau? Tasg ddigon anodd, yn arbennig ar gyfer gwlad mor hudolus â Chymru. Rydym yn wlad fach sy’n cynnig hanes cyfoethog, diwylliant ac iaith unigryw, golygfeydd godidog a phobl gyfeillgar, annibynnol eu natur.

O ran maint, mae Cymru yn wlad fach o’i chymharu mewn atlas â gwledydd anferth eraill fel Canada neu Rwsia, ond a ydyw maint yn cyfrif mewn gwirionedd? Rydym yn hoffi meddwl bod ein maint yn berffaith ar gyfer gwlad; mae’n ddigon bach i ddod i’w hadnabod yn hawdd ond yn ddigon mawr i’ch cyfareddu am oes. Rydym yma i ddweud hynny wrth weddill y byd ac i roi gwybod iddynt yr hyn maen nhw’n ei golli. Rydym yn barod i gyfaddef serch hynny y gallem fod ychydig yn rhagfarnllyd ond rydym yn ddigon parod hefyd i gefnogi ein honiadau – os nad ydych chi’n ein credu, beth am ddod yma i ddarganfod hyn oll drosoch eich hun?

Fel man dechrau, bwriad y wefan hon yw ein cyflwyno ein hunain i chi. Mae’n bosibl y byddwch eisoes yn gwybod cryn dipyn am Gymru neu efallai na fyddwch chi. Ar y tudalennau hyn cewch wybodaeth am wahanol agweddau ar y wlad a dolenni i wefannau defnyddiol eraill. Os na allwch gael hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi, cysylltwch â ni. Cawn weld os gallwn eich rhoi ar ben y ffordd.

   

Prosiect Cymraeg ym Mhatagonia yn cael hwb pellach

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi dangos unwaith eto ei hymrwymiad i’r Gymraeg gan gyhoeddi y bydd prosiect yr iaith Gymraeg ym Mhatagonia yn para am dair blynedd eto. Mwy.

Cysylltwch ni

A oes gennych gwestiwn i’w holi am Gymru? Ydych chi wedi methu dod o hyd i atebion ar y wefan hon neu ar wefannau cysylltiedig eraill? Neu a oes gennych sylw i’w wneud am y wefan hon?
  
 
Cysylltwch â ni.